ERTHYGLAU HYFFORDDI

10 ffordd o gymell eich hun wrth baratoi ar gyfer y marathon

Gall hyfforddi ar gyfer marathon fod yn ymrwymiad does. Rydyn ni’n gwybod pa mor anodd mae’n gallu bod. Dyna pam ein bod wedi nodi 10 awgrym syml i’ch helpu chi i gymell eich hun o nawr tan ddiwrnod y ras – ac mae’n llawer haws nag y byddech chi’n ei ddisgwyl!

Gosod Eich Nod

Mae o leiaf un peth yn cymell rhedwyr. Efallai eich bod yn dymuno bod yn fwy heini, neu fod gennych chi amser marathon gorau i’w guro. Gosodwch eich nod yn gynnar a byddwch chi ar y trywydd iawn bob amser.

Anwybyddu Eich Amseroedd

Peidiwch â chanolbwyntio gormod ar amseroedd wrth hyfforddi – dim ond ar deimlo’n fwy heini bob tro rydych chi’n mynd i redeg ac ar redeg yn gyson. Dydych chi ddim am deimlo’n wych bob tro rydych chi’n rhedeg ond os byddwch chi’n glynu wrthi, bydd diwrnod y ras yn teimlo fel lap yr enillydd!

Bod yn Gymdeithasol

Un o’r pethau anoddaf am redeg yw mynd allan ar eich pen eich hun ar y nosweithiau oer a gwyntog hynny ar ddydd Llun. Cadwch mewn cysylltiad â’r gymuned Marathon drwy apiau fel Strava, a mynd i redeg â’ch partneriaid rhedeg arferol yn aml.

Gwobrwyo nodau tymor byr

Wedi cyrraedd 10K? Rydych chi wedi haeddu pryd blasus! Llwyddo i gadw at eich cynllun hyfforddi? Ewch i gael tyliniad chwaraeon. Teimlo eich bod chi’n haeddu trît? Pam lai. Nid artaith yw’r nod.

Gwneud rhywbeth heblaw rhedeg

Byddai rhedeg a dim byd arall yn undonog. Mae digon o ffyrdd eraill o gadw’n heini wrth hyfforddi ar gyfer marathon. Beicio, yoga, pilates – dewiswch chi!

Newid eich amgylchedd

Byddai dilyn yr un llwybr bob tro yn ailadroddus iawn hefyd. Mae’n bwysig newid eich llwybr rhedeg yn rheolaidd – oherwydd mae’r un hen lwybr yn blino’r meddwl, ac mae golygfeydd newydd yn fuddiol i’r meddwl!

Darllen dyfyniadau

‘If you want to run, run a mile. If you want to experience a different life, run a marathon’ – Emil Zatopek, enillydd medal aur yn y Gemau Olympaidd. Rydyn ni’n teimlo’n well yn barod ar ôl darllen hwnnw – ac mae mwy o lawer ar-lein!

Dychmygu Y foment

Mae croesi’r llinell derfyn ar ôl marathon yn un o uchafbwyntiau bywyd. Bydd yr atgof yn fythgofiadwy. Yn ystod eich hyfforddiant, bydd dychmygu’r foment honno’n rhoi egni i chi.

Treialon

Does dim byd yn cymharu â diwrnod ras, felly byddem yn awgrymu eich bod yn cymryd rhan mewn ras fyrrach cyn eich marathon. Gallwch chi brofi eich arferion a rhoi cynnig ar yr hyn rydych chi am ei wisgo, ei fwyta a’i wneud cyn ras er mwyn gweld beth sy’n llwyddiannus ac yn aflwyddiannus.

Cofio pam eich bod yn rhedeg

Boed chi’n rhedeg dros elusen neu i herio eich hun ar y pellter eithaf, cofiwch pam eich bod yn hyfforddi. Y profiad o redeg marathon yw’r un sy’n rhoi’r boddhad mwyaf ym myd rhedeg ffyrdd.

Mae cwrs Marathon Casnewydd Cymru ABP ymysg y mwyaf gwastad yn y DU, gan ei wneud yn berffaith i bobl sy’n rhedeg marathon am y tro cyntaf neu’n gobeithio rhedeg eu hamser gorau.