ERTHYGLAU HYFFORDDI

26.2 rheswm dros redeg marathon

Os ydych chi erioed wedi cwestiynu a fyddech chi’n gallu cwblhau marathon ai peidio, mae gennym ni’r ateb – ac mae’n newyddion da. Marathon Casnewydd Cymru ABP yw ein ras hiraf ac mae’r cwrs yn unigryw o wastad a chyflym. Rydyn ni wedi amlinellu 26.2 rheswm pam mai hon yw’r ras i chi!

1 – Mae’n farathon. Profiad bythgofiadwy!

2 – Mae’r amser yn eich dwylo chi. Gorau po gyntaf o ran dechrau hyfforddi.

3 – Mae dros 70% o’r rhai sydd wedi rhedeg Marathon Casnewydd Cymru ABP wedi rhedeg eu hamser gorau yn y ras.

4 – Dyma uchafbwynt rhedeg ffyrdd.

5 – Byddwch yn ysbrydoli pobl o’ch cwmpas.

6 – Neu’n codi arian i elusen hyd yn oed!

7 – Mae’r oriau o hyfforddiant yn datblygu cymeriad.

8 – Byddwch yn fwy heini nag erioed.

9 – Mae rhedeg yn debygol o fynd â’ch bryd.

10 – A byddwch chi eisiau ei wneud eto ac eto.

11 – Gallech chi ymuno â chymuned Marathon Casnewydd Cymru ABP, sy’n tyfu a thyfu.

12 – Ac ymuno â’n clwb Strava i rannu sesiynau a straeon hyfforddi.

13 – Wrth gwrs byddwch yn cwrdd â phobl newydd ar hyd y ffordd hefyd.

14 – Byddwch yn gallu brolio wrth eich ffrindiau am amser maith.

15 – Ond yn bwysicach byth, gallwch chi gyflawni nod tymor hir drwy redeg marathon.

16 – Mae Casnewydd yn llwybr gwastad ac yn brofiad newydd i bobl sy’n edrych am rywbeth arall yn lle Llundain.

17 – Byddwch yn pasio tirnodau mwyaf eiconig Casnewydd.

18 – Gan gynnwys Pont Gludo, un o ddim ond tair sy’n gweithio.

19 – Bydd y dorf yn Magor yn rhoi atgofion bythgofiadwy i chi.

20 – Fe gewch chi weld y pentrefi canoloesol a’r bywyd gwyllt arfordirol llai cyfarwydd sy’n amgylchynu’r ddinas.

21 – Fe gewch chi grys t unigryw i orffenwyr i’w wisgo â balchder.

22 – Yn ogystal â medal i ddangos i bawb yn y gwaith diwrnod wedyn!

23 – Bydd croesi’r llinell derfyn yn gwireddu eich Adduned Flwyddyn Newydd.

24 – Bydd y profiad yn eich newid er gwell.

25 – Efallai y byddwch yn dymuno ei wneud eto hyd yn oed!

26 – Mae’n ddiwrnod bythgofiadwy.

26.2 – Cofrestrwch yn gynnar i gael mynediad Lansio neu Cynnar, ac arbed arian!

Mae cwrs Marathon Casnewydd Cymru ABP ymysg y mwyaf gwastad yn y DU, gan ei wneud yn berffaith i bobl sy’n rhedeg marathon am y tro cyntaf neu’n gobeithio rhedeg eu hamser gorau.