5 ffordd o amrywio eich hyfforddiant
Mae digon o filltiroedd yn rhan o hyfforddiant ar gyfer ras, dim dwywaith am hynny. Bob dydd bron, rydych chi ar y ffordd yn gweithio’n raddol tuag at bellter eich ras, ond mae un peth pwysig mae llawer o redwyr yn ei anghofio. Ffitrwydd yw hanfod y peth, nid dim ond milltiroedd. I’ch helpu chi i osgoi diflasu ar filltiroedd, rydyn ni wedi amlinellu ambell ffordd arall o gadw’n heini a bod yn feddyliol fodlon.
Hyfforddiant Fartlek
Ystyr Fartlek yn llythrennol yw ‘chwarae cyflym’ yn Swedeg. Yn syml iawn, mae’n gymysgedd o sbrintio ac arafu’r tempo drwy loncian, ond gall eich helpu’n sylweddol i gyrraedd eich nod o ran ffitrwydd marathon. Os ydych chi’n ymdrechu i redeg ar gyflymder cyson wrth redeg o ddydd i ddydd, mae Fartlek yn eich helpu i amrywio pethau rhywfaint. Sbrintiwch am 100m, loncian am 100m, rhedeg ar gyflymder ‘tempo’ am 50m, ac yna sbrintio am 20m arall. Mae’r cliw yn yr enw, ‘chwaraewch’ o gwmpas wrth redeg a bydd eich cyflymder, eich cryfder a’ch dygnwch ar eu hennill.
Yoga neu Pilates
Meddyliwch am ddosbarthiadau Yoga neu Pilates fel rhywbeth i’w wneud pan nad ydych chi’n teimlo fel rhedeg. Fydd dosbarth neu ddau ddim yn eich paratoi ar gyfer marathon dros nos, ond byddan nhw’n ddefnyddiol dros eich misoedd hyfforddi. Pam? Oherwydd mae Yoga a Pilates yn gweithio cyhyrau nad oeddech chi’n gwybod eu bod gennych chi! A pham mae hynny’n bwysig? Oherwydd ni fydd y cyhyrau hynny’n wan ac ni fyddwch yn cael unrhyw anafiadau trafferthus oherwydd mai ‘dim ond rhedeg’ ydych chi wedi’i wneud.
Cystadlu
Does dim yn gallu eich paratoi ar gyfer cyffro diwrnod ras! Mae llawer o redwyr yn cael eu llethu gan y cyflymder cychwynnol a’r adrenalin sy’n dilyn sŵn gwn y llinell gychwyn. Y ffordd orau o osgoi hynny yw magu profiad. Mae Run 4 Wales yn darparu llu o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, gan roi cyfle i redwyr brofi eu ffitrwydd dan amodau cystadleuol – a’r gwir plaen ydy, mae’n fwy cyffrous o lawer pan ydych chi’n ei wneud go iawn!
Archwilio
Rhedeg ffyrdd yw eich bara menyn o ran yr hyfforddiant, ond mae mwy i redeg na dim ond milltiroedd. Dylech chi fwynhau’r profiad cyfan a dyna pam ein bod yn annog ein rhedwyr i amrywio eu hyfforddiant drwy redeg treialon, llwybrau newydd, a gosod nodau. Peidiwch â gwneud yr un rhediad oni bai fod gennych chi nod gwahanol. Os ydych chi’n dymuno cael her wahanol, ewch oddi ar y ffyrdd ac i barc neu gae cyfagos. Gallech chi redeg eich llwybr arferol am yn ôl. Gwnewch beth bynnag mae’n ei gymryd ei osgoi diflasu ar y milltiroedd.
Cynyddu’r dwysedd
Fyddwch chi ddim yn llawn mynd bob dydd, ac mae hynny’n iawn – ond bydd cynyddu’r dwysedd pan ydych chi’n teimlo’n gryf yn eich helpu yn nes ymlaen. Mae hyfforddiant seibiannol dwysedd uchel yn gweithio ar eich ffitrwydd a’ch cryfder, ac mae’n ffordd wych o amrywio’r drefn hyfforddi. Mae digon o enghreifftiau a fideos o’r sesiynau ymarfer hyn ar y rhyngrwyd felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dod o hyd i’r rhai sy’n addas i chi. Canolbwyntiwch ar eich cyhyrau rhedeg, eu defnyddio dim ond i ategu eich cynlluniau hyfforddi, a byddwch yn teimlo’n wych erbyn diwrnod y ras!