Pethau i’w cofio os ydych chi newydd ddechrau rhedeg
Nid ar chwarae bach mae paratoi ar gyfer ras os ydych chi newydd ddechrau rhedeg, a dyna pam ein bod yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd nes diwrnod y ras! Tua saith wythnos sydd i fynd tan ddiwrnod y ras, felly dyma rai o’r pethau pwysicaf i’w cofio wrth i’r ras agosáu.
Cadw’n Gynnes
Byddwch yn brwydro’n erbyn oerfel y gaeaf yn ystod y rhan fwyaf o’ch wythnosau hyfforddi. Efallai ei fod yn beth amlwg i’w ddweud ond mae cadw’n gynnes wrth redeg yn hollbwysig er mwyn osgoi anafiadau trafferthus a theimlo’n dda ar ddiwrnod y ras.
Cyngor campus: Pan fydd y tymheredd yn disgyn islaw 2 neu 3 gradd, gwisgwch haenau, fenyg, het wlanog, ‘snood’ neu orchudd wyneb, a byddwch yn ddiogel – peidiwch â rhedeg os yw’n beryglus!
Hydradu
Pan ydych chi’n canolbwyntio ar y pellter ac ar wneud yn siŵr eich bod yn barod i redeg 10K, mae’n hawdd anghofio’r hanfodion. Mae hydradu’n bwysig mewn bywyd bob dydd, ond fwy byth pan ydych chi’n gwthio eich hun yn gorfforol.
Ystyr dadhydradiad, neu ddiffyg hylif mewn termau syml, yw colli gormod o ddŵr o’r corff ac ystyr hydradu yw yfed dŵr yn ei le ac unioni pethau unwaith eto. Rhywbeth arall i’w ystyried ydy nad oes ateb sydyn o ran hydradu – mae angen i chi fod ar ben eich pethau yn y diwrnodau cyn rhedeg.
Mynd ar y Cyflymder Cywir
Newydd ddechrau rhedeg? Ydych chi o hyd yn edrych ac yn meddwl am eich amseroedd a’ch pellteroedd? Mewn gair, peidiwch! Ar bob cam yn eich hyfforddiant, ewch ar y cyflymder cywir a gwneud beth bynnag sy’n addas i chi. Dylech chi ganolbwyntio ar orffen a theimlo’n dda, yn hytrach na gwthio eich hun tuag at dargedau afrealistig.
Mae canfod rhythm wrth redeg yn haws nag y byddech chi’n ei ddisgwyl unwaith rydych chi wedi arfer â’ch cyflymder.
Cyngor campus: Gwrandewch ar eich corff. Os nad ydych chi’n teimlo cystal, ewch yn arafach nag y byddech chi pe baech chi’n llawn egni.
Mwynhau
Dyna pam ein bod yn rhedeg, wedi’r cyfan. Pwrpas rhedeg yw bod yn heriol ond yn bleserus – taro’r cydbwysedd hwnnw yw’r elfen allweddol ar gyfer mwynhau’r gamp! Gallwch chi fwynhau’r profiad hyfforddi hefyd drwy fod yn gymdeithasol, dod o hyd i bartner rhedeg, a gwneud y mwyaf o bob rhediad.