7 nodwedd rhedwr marathon – pa rai sy’n gweddu i chi?
I’r rhan fwyaf o bobl, dim ond breuddwyd yw cwblhau marathon. Mae’n nod gydol oes ac i rai yn rhywbeth y mae’n rhaid ei wneud mewn bywyd. Mae rhedeg am 26.2 milltir yn eich gwthio i’r ffin yn gorfforol ac yn feddyliol. I ymuno â’r clwb elit o redwyr marathon, mae angen i chi feddu ar set benodol o nodweddion. Pa rai sy’n gweddu i chi?
Ffocws
Dydy’r rhai sydd â ffocws clir ddim yn gadael i unrhyw beth ddod rhyngddyn nhw a’u nod. Un peth yw cofrestru ar gyfer marathon, ond mae gan redwyr â ffocws clir nodau penodol. Iddyn nhw, nid y cymryd rhan sy’n bwysig.
Ysbrydoledig
Mae sawl ffurf ar ysbrydoliaeth. O Martin Luther King, meddygon a nyrsys, i redwyr marathon. Mae rhedeg marathon am resymau personol yn wych ond mae rhedeg ar ran elusen i helpu pobl eraill yn mynd yr ail filltir go iawn.
Cydnerth
Mae rhedwyr marathon yn wynebu rhwystrau bob tro bron, boed hynny’n anafiadau neu salwch annisgwyl wrth hyfforddi. Mae pobl gydnerth yn bobl arbennig sy’n rhedeg drwy’r blisteri, poen yn y crimogau (shin splints) a phob math arall o boen. Dydyn nhw ddim yn digalonni ac maen nhw’n gwneud unrhyw beth i gyrraedd y llinell derfyn.
Llawn Cymhelliant
Bydd llawer o’n rhedwyr eleni wedi cofrestru er mwyn cael amser gorau neu i wireddu eu haddunedau flwyddyn newydd. I’r math hwn o berson, mae’r cymhelliant yn glir iddynt: cadw’n heini am y flwyddyn galendr, cwblhau’r marathon neu guro eu hamser gorau ar gwrs gwastad a chyflym.
Cymdeithasol
Dychmygwch yr awyrgylch mewn marathon. Rydych chi’n gwybod y bydd yn ddigwyddiad arbennig ac yn un y mae llawer yn dymuno bod yn rhan ohono. Rydych chi’n aml yn gweld rhedwyr marathon yn casglu ynghyd ar y llinell derfyn yn rhannu eu profiad a’u straeon – rydyn ni’n gobeithio gweld mwy o hynny eleni!
Wedi Paratoi
Mae angen cynllunio a pharatoi’n fanwl ar gyfer marathon. Nid yw’r math o ddigwyddiad lle gallwch chi daro draw ar y diwrnod a rhedeg. Mae’r rhan fwyaf o redwyr yn dilyn deiet ac amserlen redeg benodol, gan wybod y byddant yn y cyflwr gorau posib pan ddaw’r ras.
Dewr
Efallai nad ydyn nhw’n sylweddol, ond mae gan bob rhedwr marathon bersonoliaeth dewr. Mae marathon ymysg yr heriau anoddaf gall person roi cynnig arni, felly dylid dathlu’r holl redwyr am eu hymdrech aruthrol.
Rhaid cael o leiaf un o’r saith nodwedd uchod er mwyn croesi’r llinell derfyn. Pa un sy’n gweddu orau i’ch personoliaeth chi?