CYFEILLGAR A CHROESAWGAR
Yn cynnig lletygarwch, hiwmor a rhadlonrwydd i eraill.
Mae ein diwylliant cadarnhaol, cyfeillgar a llawn hwyl i’w weld mewn digwyddiadau ac yn amgylchedd y sefydliad, lle mae llwyddiant yn cael ei ddathlu gan bawb

YN CANOLBWYNTIO AR Y TÎM BOB AMSER
Drwy weithio fel tîm mae gwireddu’r freuddwyd.
Mae dull gweithredu cwbl gydweithredol yn gwella perfformiad drwy rannu heriau a chyfrifoldebau’n fewnol ac yn y sector digwyddiadau ehangach.

UCHELGEISIOL
Rydyn ni wedi ymrwymo i gyflawni nodau uchelgeisiol a chyflawni i safonau uchel, gyda gwelliant parhaus mewn golwg bob amser.

UNIONDEB
Cael moesau da a cheisio gwneud y peth iawn bob amser.
Gellir ymddiried ynom i gyflawni addewidion a rhwymedigaethau, sy’n cael eu dylunio ag ystyriaethau moesol, amgylcheddol a chymdeithasol wrth eu calon.

Mae ein gwerthoedd yn helpu i ddylanwadu ar ein dull o gyflenwi digwyddiadau sy’n cael eu trefnu i safon uchel, gyda phersonoliaeth unigryw a lefelau uchel o ymwybyddiaeth gymdeithasol. Mae ein gwaith yn bwysig iawn i ni ac mae’r angerdd a’r brwdfrydedd hyn yn amlwg.
Os yw ein gwerthoedd yn cyd-fynd â’ch rhai chi, dysgwch fwy am weithio yma, neu dewch i gwrdd â’r tîm.