ERTHYGLAU HYFFORDDI

Awgrymiadau hollbwysig pan fyddwch wedi cofrestru ar gyfer ras

Rydyn ni wedi rhestru 5 awgrym hyfforddi cynnar hollbwysig nawr eich bod wedi ymrwymo i redeg ras neu her!

1 Bod yn Gymdeithasol

Mae’r gymuned rhedeg yn tyfu bob dydd ac mae digon o ffyrdd o gymdeithasu â rhedwyr eraill sydd, fel chi, wedi cofrestru ar gyfer un o heriau anoddaf rhedeg ffyrdd. Gallwch chi ddilyn eich digwyddiad ar Facebook neu Twitter, tanysgrifio i’n rhestr bostio neu ymuno ag un o’n clybiau Strava. Drwy wneud hynny byddwch yn cymdeithasu â chymuned y digwyddiad, yn rhannu awgrymiadau a chyngor, ac yn cadw llygad ar eich cynnydd o’i gymharu â phobl eraill.

2 Dechrau bwyta’n dda

Yn anffodus, rydych chi’n annhebygol o allu taro draw a rhedeg, yn enwedig mewn digwyddiadau fel marathon neu hanner marathon. Dyna pam mae’r teimlad o gyflawni pan fyddwch yn croesi’r llinell derfyn heb ei ail. Os gallwch chi ddechrau rheoli eich deiet nawr, byddwch yn fwy parod pan fyddwch yn dechrau hyfforddi. Peidiwch â chymysgu eich deiet cyn hyfforddi â’ch deiet hyfforddi, lle byddwch yn bwyta llawer o garbohydradau i gymryd lle calorïau sy’n cael eu llosgi. Cyn i chi roi’r milltiroedd yn eich coesau, mae’n bwysig teimlo’n iach. Gall hynny olygu unrhyw beth o leihau faint o alcohol rydych chi’n ei yfed i ddilyn deiet mwy cytbwys.

3 Arfogi’ch hun

O’r ap hyfforddi cywir i’ch esgidiau rhedeg – mae angen i bopeth fod yn berffaith cyn i’ch hyfforddiant ddwysáu. Ewch i chwilio am eich esgidiau rhedeg yn gynnar a loncian yn ysgafn ynddynt ambell waith. Os nad ydyn nhw cweit yn iawn, daliwch ati i chwilio nes eich bod yn dod o hyd i’r rhai cywir. Chwiliwch am ap hyfforddi sy’n addas i chi. Gwisgwch ddillad rhedeg gaeafol sy’n gyfforddus ar gyfer rhedeg pellteroedd hir. Defnyddiwch eich ap tywydd. Peidiwch â bod yn ddi-gyfarpar hyd yn oed os ydych chi’n ddi-glem – am y tro!

4 Cynllunio eich hyfforddiant

Y peth gwaethaf gallwch chi ei wneud wrth hyfforddi yw rhuthro i rywbeth sy’n gofyn gormod. Efallai fod pellter eich ras yn teimlo’n bell i ffwrdd ond gyda chynllun wythnosol, byddwch wedi’i gyrraedd mewn dim. Os ydych chi wedi’i wneud o’r blaen, byddwch yn gwybod beth yw’r cynllun. Ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio!

5 Mwynhau’r daith

Bydd adegau anodd ac adegau boddhaol (a byddwch yn teimlo hynny i’r eithaf ar ddiwrnod y ras!) – ond mae ras yn rhywbeth i edrych ymlaen ati. Cadwch wên ar eich wyneb drwy gydol yr hyfforddiant a gofalu amdanoch chi eich hun!