DOES DIM RHAID I CHI REDEG I FOD YN RHAN O RAI O’R DIGWYDDIADAU CYFRANOGIAD TORFOL MWYAF YNG NGHYMRU!
Mae ein gwirfoddolwyr, yr ‘Extra Milers’, yn chwarae rôl hollbwysig yn sicrhau llwyddiant diwrnodau rasys Run 4 Wales. Does dim angen unrhyw sgiliau arbennig arnoch chi i ymuno â’n tîm o wirfoddolwyr, dim ond bod yn ddibynadwy, yn hyblyg ac yn hynod o frwdfrydig!
Eisiau mwy o wybodaeth am fod yn wirfoddolwr? Cysylltwch â Tor, ein Rheolwr Gwirfoddoli, ar volunteers@run4wales.org, neu gofrestru isod.
Bydd gwirfoddolwyr yn cael gwisg, egwyliau, bwyd a diod, hyfforddiant gan oruchwyliwr, a’r cymorth a’r hyfforddiant sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu rôl. Mae gwirfoddoli’n ffordd wych o brofi awyrgylch drydanol diwrnod ras, o gael hwyl a gwneud ffrindiau, ac o wella eich CV. Os ydych chi’n grŵp ieuenctid neu gymunedol lleol a allai fod â diddordeb cymryd rhan yn ein digwyddiadau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi! Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am wirfoddoli fel grŵp.
Ydy eich mudiad yn cynnig diwrnodau gwirfoddoli gyda thâl? I gael gwybod sut gall eich tîm gael profiad newydd, cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau lleol a gwneud gwahaniaeth, anfonwch e-bost atom nawr i drafod cyfleoedd gwirfoddoli gyda Run 4 Wales. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am wirfoddoli corfforaethol.
*SYLWCH: Rhaid bod dros 14 oed i wirfoddoli. Rhaid i bawb rhwng 14 a 17 oed gael ffurflen caniatâd rhieni wedi’i llenwi, a bod yng nghwmni rhywun dros 18 oed pan fyddant yn gwirfoddoli (wedi’i gytuno gan riant/gwarcheidwad) **
SUT BETH YW GWIRFODDOLI?
Gwyliwch y fideos hyn a ffilmiwyd yn Hanner Marathon Caerdydd yn 2022 a 2023 i gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli:
Edrychwch ar ein cyfryngau cymdeithasol i weld pa mor bwysig yw ein gwirfoddolwyr i ni.
Rolau gwirfoddolwyr
Meddwl am wirfoddoli gyda ni, ond methu penderfynu pa rôl?
*Photo Credit Ian Whitcombe
GWIRFODDOLI YN NIGWYDDIADAU RUN 4 WALES
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Tor: volunteers@run4wales.org
Cofiwch ymuno â’n Facebook, lle gallwch chi gymdeithasu ag aelodau eraill o dîm yr Extra Milers cyn diwrnod y ras.