Cyfres o ddigwyddiadau teuluol wedi’i hail-lunio i geisio ysbrydoli cenhedlaeth y dyfodol i fod yn actif ac yn iach.
Yma yn R4W, rydym yn awyddus i ddarparu profiadau cofiadwy i bobl ifanc – o blant bach hyd at athletwyr elitaidd y dyfodol!
Bob blwyddyn, mae miloedd o blant, oedolion ifanc a’u teuluoedd yn cymryd rhan yn ein digwyddiadau teuluol. Rasys sy’n cael eu cynnal yn annibynnol neu ochr yn ochr i digwyddiadau fel Hanner Marathon Caerdydd a Marathon Casnewydd ABP.
Rhaglen R4W Next Gen sef gyfres o ddigwyddiadau byw a rhithwir, sy’n ceisio cefnogi genhedlaeth y dyfodol trwy eu cysylltu â chyngor hyfforddi, gwybodaeth ddefnyddiol, chynhyrchion a gwasanaethau a all wella eu lles corfforol a meddyliol – gan eu gosod ar lwybr i fyw bywyd iach.
Bydd y gyfres yn eistedd wrth ochr i phortffolio sefydledig o ddigwyddiadau byw, gyda chyfleoedd ar wahân i ystod o oedrannau a galluoedd gwahanol.
Er y bydd plant a theuluoedd dal yn gallu mwynhau’r ‘ras hwyl’ traddodiadol, bydd cyfleoedd newydd i’r rheini ar bob pen i’r sbectrwm rhedeg – o blant bach sy’n cymryd rhan yn weithgareddau ymarfer corff am y tro cyntaf, yr holl ffordd drwodd i athletwyr ifanc talentog sy’n chwilio am ras gystadleuol.
A ninnau’n sefydliad nid-er-elw, mae’r arian dros ben rydyn ni’n ei gynhyrchu yn cael ei fuddsoddi yn sefydliad elusennol R4W, sy’n cefnogi ac yn dyfarnu cyllid i chwaraeon ar lawr gwlad a phrosiectau cymunedol eraill. Ers flynyddoedd rydym wedi darparu cyllid i Gymdeithas Athletau Ysgolion Cymru – gan greu cyfleoedd i athletwyr ysgolion Cymru i gymryd rhan mewn cystadlaethau Rhanbarthol, Cenedlaethol a Rhyngwladol.
Bydd rhaglen R4W Next Gen yn datblygu hyn ym mhellach wrth i ni geisio cefnogi a chreu cyfleoedd ychwanegol i bobl ifanc cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarfer corff – yn enwedig y rhai sydd wedi’u gwahardd am resymau economaidd-gymdeithasol. Gydag oriau addysg yn cael eu colli ar ben canslo gweithgareddau chwaraeon ieuenctid yn ystod y pandemig, mae hyn yn bwysicach byth.
Cliciwch isod i weld y digwyddiadau sydd ar gael, i danysgrifio am ddiweddariadau, neu os ydych chi’n frand neu’n elusen fasnachol i ddarganfod mwy am gymryd rhan yn y rhaglen.