
Mae ein Rhaglen Athletwyr Elît yn denu athletwyr blaenllaw o bob rhan o’r DU a thu hwnt i gystadlu.
Mae ein rasys elît yn denu athletwyr domestig a rhyngwladol blaenllaw, yn ogystal â chryn sylw yn y cyfryngau.
Mae Steve Brace, Cyfarwyddwr Rasys R4W a cyn-redwr marathon Olympaidd, wedi dylunio cyrsiau gydag amseroedd cyflym a pherfformiad athletwyr elît mewn golwg.
Rydyn ni wedi cynnal nifer o Bencampwriaethau athletau ar draws gwahanol bellteroedd a disgyblaethau gan gynnwys Pencampwriaeth 10KM Cymru, Pencampwriaeth Hanner Marathon Cymru, Pencampwriaeth Rhedeg Llwybrau Cymru, Pencampwriaeth Hanner Marathon Prydain, Pencampwriaeth Hanner Marathon y Gymanwlad, Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd, Pencampwriaeth Rhedeg Llwybrau’r Byd, a Phencampwriaeth Rhedeg Mynyddoedd y Byd.
Mae ambell un o’r pum athletwr cyflymaf yn byd dros bellter hanner marathon wedi rhedeg Hanner Marathon Caerdydd, gan gynnwys Edith Chelimo, sy’n dal y record byd i ferched, a redodd y pumed amser cyflymaf erioed yn y ras, 65:52. Mae athletwyr blaenllaw o Brydain ac Ewrop yn cystadlu yn Marathon Casnewydd Cymru a’n Cyfres 10K.
I gael mwy o wybodaeth am leoedd yn y rasys elît, y gwobrau ariannol a’r meini prawf ar gyfer cymryd rhan mewn unrhyw ddigwyddiad R4W, cysylltwch ag Alex Donald, y Rheolwr Athletwyr Elît.
Cystadleuwyr o Fri
Mae Hanner Marathon Caerdydd, ein prif ddigwyddiad, wedi croesawu rhai o athletwyr elît gorau’r byd a maes cystadleuol iawn yn y ras cadair olwyn. Ymysg y cystadleuwyr o fri mae athletwyr sydd wedi ennill medalau mewn prif bencampwriaethau:

JOHN KELAI
Enillydd y Marathon yng
Ngemau’r Gymanwlad yn 2010

FLOMENIA DANIEL
Enillydd y Marathon yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2014

CYBRIAN KOTUT
Enillydd Marathon Paris yn 2016

JAPHET KORIR
Pencampwr Traws Gwlad y Byd yr IAAF yn 2013

FILEX CHEMONGES
Yr un sy’n dal record genedlaethol Uganda yn y Marathon

AZMERA AREHA
Wedi rhedeg y 10fed amser cyflymaf erioed yn y Marathon ymysg merched (2:18:33)

JOSPHAT BETT
Enillydd Medal Arian yn y 10,000m yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2014

WILSON CHEBET
Yr un a oedd arfer dal record Marathon Rotterdam
RECORDIAU’R CWRS

HANNER MARATHON CAERDYDD
- Dynion – Leonard Langat, KEN, 59:30 (2019)
- Merched – Edith Chelimo, KEN, 65:52 (2017)

HANNER MARATHON Y BYD
- Dynion – Geoffrey Kamworor, 59:10 (2016)
- Merched – Peres Jechirchir, 67:31 (2016)

VELOTHON CYMRU (174KM)
- Dynion – Ian Bibby, GBR (JLT Condor) 4:09:47 (2017)

CDF 10K
- Dynion – Alfred Ngeno, Kenya, 28:33 (2023)
- Merched – Charlotte Arter, Great Britain, 32:45 (2019)

MARATHON CASNEWYDD
- Dynion – Dan Nash, GBR, 2:19:46 (2023)
- Merched – Rebecca Gallop, GBR, 02:44:07 (2018)

10K BAE CAERDYDD
- Dynion – Omar Ahmed, GBR, 28:42 (2021)
- Merched – Charlotte Arter, GBR, 32:49 (2019)

HANNER CASNEWYDD
- Dynion – Ronnie Richmond , GBR, 01:07:15 (2024)
- Merched – Lizzie Dimond, GBR, 01:22:11 (2024)

10K CASNEWYDD
- Dynion – Omar Ahmed, GBR, 28:35 (2023)
- Merched – Hannah Irwin, GBR, 32:58 (2024)

10K PORTHCAWL
- Dynion – Josh Griffiths, GBR, 29:55 (2019)
- Merched – Lily Partridge, GBR, 33:57 (2023)

10K YNYS Y BARRI
- Dynion – Dewi Griffiths, GBR, 29:48 (2018)
- Merched – Lily Partridge, GBR, 34:32 (2023)