Mae R4W yn dadlau’n frwd o blaid pŵer chwaraeon. Rydyn ni’n defnyddio cyrhaeddiad ein digwyddiadau i wneud cyfraniadau cadarnhaol i amrywiaeth, iechyd meddwl, iechyd corfforol, cydraddoldeb, amrywiaeth, adfywio cymunedol, gwirfoddoli, codi arian i elusennau, defnydd cyfrifol, cynaliadwyedd amgylcheddol a thwristiaeth.
A ninnau’n sefydliad nid-er-elw, mae’r arian dros ben rydyn ni’n ei gynhyrchu yn cael ei fuddsoddi yn Sefydliad Elusennol R4W, sy’n cefnogi ac yn dyfarnu cyllid i chwaraeon ar lawr gwlad a phrosiectau cymunedol eraill.
Mae Sefydliad Elusennol R4W yn elusen gofrestredig (rhif elusen 1160212)
Ers ei sefydlu yn 2012, mae wedi:
Darparu 6 blynedd o gyllid i Gymdeithas Athletau Ysgolion Cymru, gan greu cyfleoedd i athletwyr oedran ysgol gystadlu ar lefel Ranbarthol, Genedlaethol a Rhyngwladol.
Buddsoddi yn Rhedeg Cymru, rhaglen redeg gymdeithasol Athletau Cymru sy’n anelu at ysbrydoli, annog a chefnogi pob oedolyn yng Nghymru i redeg. Mae hyn wedi arwain at 100 o grwpiau rhedeg cymdeithasol yn cael eu sefydlu ledled Cymru.
Gweithio gyda Rhedeg Cymru i gefnogi 48 o ddigwyddiadau parkrun yng Nghymru lle mae miloedd o bobl yn cerdded, yn loncian neu’n rhedeg 5K bob bore dydd Sadwrn.
Darparu lleoedd mewn rasys a chymorth hyfforddi i dros 1,000 o bobl sy’n rhedeg am y tro cyntaf o grwpiau amrywiol, drwy fentrau fel ABW 500 a Chlwb 100 Hanner Marathon Caerdydd.