10K Caerdydd Brecon Carreg

10k Hanesyddol Y Brifddinas

CRYNODEB

Mae 10K Caerdydd Brecon Carreg wedi cael ei hychwanegu at bortffolio Rhedeg Dros Gymru (R4W) o ddigwyddiadau nodedig y byd athletau gyda chyfranogiadau enfawr.

Mae adfywiad y digwyddiad eiconig a hanesyddol hwn yn rhoi cyfle i filoedd o redwyr i lenwi strydoedd calon prifddinas Cymru, mewn râs sy’n prysur amlygu ei hun fel un o ddigwyddiadau rhedeg mwyaf y Deyrnas Unedig.

Mae’r râs yn tywys y rhedwyr ar lwybr gwastad a chyflym sydd hefyd yn cynnwys prif atyniadau twristiaeth y ddinas, gan gynnwys Castell Caerdydd, y sgwar canolog a Stadiwm Principality.

Mae’r râs yn cychwyn yng nghanol y ddinas, cyn croesi’r Afon Taf ac yna yn symud drwy swbwrbia gwledig Pontcanna a chaeau nodedig Llandaf a Phontcanna. Ymlaen a’r rhedwyr wedyn heibio i Erddi Sofia, cartref Criced Cymru, cyn gorffen yng Nghanolfan Ddinesig Edward.

CDF 10K 2023

MEWN RHIFAU

run4wales swish

Mae’r râs wedi ei lleoli’n hwylus ar y calendr i bawb sy’n awyddus i ymarfer ar gyfer y ras drwy fisoedd y gwanwyn a’r haf, ac yn ogystal yn rhoi cyfle i gystadleuwyr ddefnyddio’r digwyddiad fel cam tuag at Hanner Marathon Caerdydd,  sy’n cael ei gynnal yn flynyddol pob mis Hydref a sydd bellach yn un o ddigwyddiadau rhedeg mwyaf Ewrop.

0

MLYNEDD

0

RAS CILOMEDR