RAS RITHIOL CLWB RHEDWYR Y CYFNOD CLO (LRC)
CRYNODEB
Yn sgil diffyg dewisiadau eraill, yr angen i fynd allan o’r tŷ, a manteision rhedeg o ran iechyd meddwl ac iechyd corfforol, mae hyn wedi golygu bod rhedeg yn fwy poblogaidd ers dechrau’r pandemig.
Er bod y cyfnod clo wedi golygu nad ydyn ni wedi gallu gweld ein hanwyliaid ac wedi cyfyngu ar ein bywydau bob dydd, i lawer mae hefyd wedi arwain at gyfle i ddarganfod, ailddarganfod, neu werthfawrogi’r pleser o wisgo’r esgidiau rhedeg, mynd tu allan a rhedeg.
Rydyn ni’n credu ei bod hi’n bwysig dathlu’r don yma o unigolion sydd wedi dewis cadw’n heini o’r newydd. Diolch i’r cyfnod clo, maen nhw wedi darganfod rhedeg, mewn cyfnod hir o newid yn ein bywydau i gyd, a dyna pam rydyn ni’n lansio Clwb Rhedwyr y Cyfnod Clo.
Gan anelu at Ras Rithiol newydd Clwb Rhedwyr y Cyfnod Clo ym mis Gorffennaf 2021 (a fydd yn cynnwys 5K, 10K a hanner marathon), bydd Clwb Rhedwyr y Cyfnod Clo yn gymuned gefnogol, yn agored i unrhyw un sy’n awyddus i ddatblygu eu ffitrwydd o’r newydd a dechrau ar daith tuag at gwblhau ras.
Er y bydd y rheini sy’n cymryd rhan yn rhedeg o bell, bydd ymdeimlad o undod yn cael ei feithrin drwy gymuned gaeedig ar y cyfryngau cymdeithasol. Yma, gall aelodau ymgysylltu ag eraill sy’n cymryd rhan, gofyn cwestiynau, rhannu cyngor a straeon am yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau wrth hyfforddi.
FFI YMGEISIO £10 – BETH MAE HYN YN EI GYNNWYS
• Mynediad i’r llwyfan canlyniadau ar-lein i gofnodi amseroedd gorffen
• Mynediad at gymuned Clwb Rhedwyr y Cyfnod Clo ar y cyfryngau cymdeithasol
• Ar ôl y ras, bydd medal yn cael ei hanfon i gartref pawb sydd yn ei gorffen
SUT MAE’N GWEITHIO
Gallwch gymryd rhan o unrhyw leoliad awyr agored, neu ar beiriant rhedeg o unrhyw leoliad ar draws y byd. Yr oll sydd angen i chi ei wneud yw casglu tystiolaeth sy’n dangos eich bod wedi cwblhau pellter y ras fel llun o gyfarpar campfa neu sgrin-lun o draciwr ffitrwydd neu weithgarwch GPS.
Bydd y ras yn cael ei chynnal rhwng 1 Gorffennaf a 31 Gorffennaf 2021. Gallwch gymryd rhan unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hwn, ond mae’n rhaid i chi gyflwyno eich canlyniad erbyn hanner nos, 31 Gorffennaf.
Bydd ACTIVE, sy’n rheoli ein llwyfan cofrestru ar-lein, yn codi ffi fach nad oes modd ei thalu’n ôl, ar ben eich ffi i gymryd rhan yn y ras.