Hanner Marathon Caerdydd Principality

Mynd yr ail filltir ar gyfer yr hanner marathon

Crynodeb

Mae Hanner Marathon Caerdydd Cymdeithas Adeiladu Principality wedi tyfu i fod yn un o’r rasys ffordd mwyaf cyffrous a phoblogaidd yn Ewrop. Hwn yw’r ail hanner marathon mwyaf yn y DU a dyma’r digwyddiad mwyaf yng Nghymru o ran codi arian ar ran elusennau amrywiol.

Mae’r ras yn rhan o’r SuperHalfs, cyfres fyd-eang o rasys hanner marathon pwysicaf y byd, sy’n cynnwys rasys yn Lisbon, Prague, Berlin, Copenhagen a Valencia, ac mae wedi cael Label Ras Ffordd Aur gan World Athletics.

Mae ei chwrs gwastad, cyflym yn pasio holl olygfeydd mwyaf trawiadol a thirnodau mwyaf eiconig y ddinas gan gynnwys Castell Caerdydd, Stadiwm Principality, y Ganolfan Ddinesig a Bae Caerdydd. Bydd miloedd o bobl yn dod i wylio a chefnogi’r rhedwyr mewn dinas sy’n enwog am fod mor angerddol am chwaraeon.

MEWN RHIFAU

run4wales swish

Mae dros 27,500 o bobl yn cofrestru i redeg Hanner Marathon Caerdydd bob blwyddyn. Mae rhai sy’n rhedeg am y tro cyntaf, rhai sy’n codi arian i elusennau a rhedwyr o bob oed a gallu yn rhedeg ochr yn ochr ag athletwyr o’r radd flaenaf a fydd yn cystadlu mewn tair ras frwd i ferched, dynion a chadeiriau olwyn.

0

pobl yn cofrestru i redeg

£0

wedi’i godi i elusen

0

o wledydd wedi’u cynrychioli