Ffordd newydd o redeg ras eiconig Cymru
Crynodeb
Mi fydd Hanner Marathon Rhithiol Caerdydd yn gyfle i ddathlu popeth sy’n arbennig am y digwyddiad, bydd hi’n rhad ac am ddim i gofrestru ac yn agored i bawb. Er ein bod yn siomedig ni fydd Hanner Marathon Caerdydd yn cymryd lle yn 2021, rydyn ni’n teimlo’n gyffrous dros ben fod ras rithiol yn cael ei chynnal yn lle hynny rhwng 1-3 Hydref.
Gall cyfranogwyr dewis i unai cerdded neu redeg yr 13.1 milltir. Hefyd mi fydd cyfle i brynu pecyn profiad (dewisol) am £15 a fydd yn cynnwys rhif ras a crys-t swyddogol i’w wisgo yn ystod y ras rithwir, yn ogystal â medal.
Mi fydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael mynediad i’r llwyfan canlyniadau i gofnodi eu hamser gorffen a hefyd y cyfle am fynediad cynnar unigryw i lansiad rhifyn 19eg Hanner Marathon Caerdydd (a drefnwyd ar gyfer Hydref 2022).
MYNEDIAD RHAD AC AM DDIM – BETH MAE HYN YN EI GYNNWYS?
• Mynediad i’r llwyfan canlyniadau ar-lein i gofnodi amseroedd gorffen
• Y cyfle i ennill gwobrau gan bartneriaid y digwyddiad
• The opportunity to win prizes from event partners
• Cyfle am mynediad unigryw cynnar i lansiad rhifyn 19eg Hanner Marathon Caerdydd (a drefnwyd ar gyfer Hydref 2022)
Pecyn Profiad (Dewisiol) – £15 – Cefnogwyr
• Rhif swyddogol Hanner Marathon Caerdydd, i roi ar eich crys ar ddiwrnod y ras
• Crys swyddogol i wisgo yn ystod ac ar ôl ddiwrnod y ras
• Medal swyddogol 2021
• Postio a phacio
SUT MAE’N GWEITHIO
Gallwch gymryd rhan o unrhyw leoliad awyr agored, neu ar beiriant rhedeg o unrhyw leoliad ar draws y byd. Yr oll sydd angen i chi ei wneud yw casglu tystiolaeth sy’n dangos eich bod wedi cwblhau pellter y ras fel llun o gyfarpar campfa neu sgrin-lun o draciwr ffitrwydd neu weithgarwch GPS.
Bydd y ras yn cael ei chynnal rhwng 1 a 3 Hydref 2021. Gallwch gymryd rhan unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hwn, ond bydd rhaid i chi gyflwyno eich canlyniad erbyn hanner nos, 4 Hydref.