Addo i fod yn rhan o'n Genedl Actif Rithiol; helpwch greu Gymru iachach a hapusach
Summary
Mae Cymru yn wlad fach ond yn un hynod o falch sydd yn sicr yn dyrnu uwch eu pwysau.
Er ein bod yn wlad fach o 3.1 miliwn, rydym yn brolio timau rygbi a phêl-droed o’r safon uchaf, yn denu rhai o ddigwyddiadau enwocaf y byd ac yn gartref i un o’r ieithoedd hynaf yn Ewrop. Ni yw’r unig wlad ar y ddaear sydd â llwybr arfordirol parhaus sydd wedi’i farcio ac rydym yn drydydd ar draws y byd am ein cyfraddau ailgylchu, tu ôl i’r Almaen a Taiwan.
Ond ble ydyn ni’n eistedd o ran gweithgaredd corfforol? Yn anffodus, mae’r canlyniadau yn llai ysbrydoledig. Mae ein plant ymhlith y lleiaf actif yn y byd – gydag ond 13% yn llwyddo i gyrraedd y lefelau ymarfer corff a argymhellir ac mae 61% o’n hoedolion dros bwysau neu’n ordew. Mae’r broblem wedi gwaethygu yn ystod pandemig COVID-19, gyda rhaglenni a chyfleusterau chwaraeon ar gau am fisoedd ar y tro.
Yma yn R4W, rydym yn falch iawn o fod yn Gymraeg ac yn angerddol am y manteision sydd ynghlwm ac ymarfer corff a’r pŵer sydd ganddo i newid bywydau trwy wella lles corfforol a meddyliol. Trwy ddigwyddiadau fel Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd rydym wedi ysbrydoli cannoedd o filoedd o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol, ond mae angen i ni wneud mwy – bydd angen symudiad mwy arnom a all ysbrydoli newid am oes.
Dyma pam rydym yn lansio Her Actif y Genedl.
Gyda chymorth ein ffrind ac arwr tîm rygbi Cymru, Gareth Thomas, rydym yn herio pobl Cymru i ymuno â ni rhwng 6-8 Awst i fod yn actif.
Rydym yn anelu cael cyn-gymaint o bobl â phosib o bob rhan o Gymru i ymuno â’r her a phrofi y gallwn or-gyflawni fel yr ydym yn neud o fewn y byd chwaraeon proffesiynol ac ailgylchu!
SUT MAE’N GWEITHIO?
- Addo i fod yn rhan o’n Genedl Actif Rithiol; helpwch greu Gymru iachach a hapusach
• • Cofrestrwch i gerdded, rhedeg, loncian neu gwthio un filltir rhwng 6-8 Awst – mae mynediad yn rhad ac am ddim
• Annog pobl rydych chi’n eu hadnabod i gymryd rhan hefyd – gall unrhyw un cymryd rhan!
• Helpwch ffrind neu aelod o’r teulu ymarfer fel y gallan nhw gwblhau’r filltir!
• Cofrestrwch ffrindiau o’ch gweithle, ysgol neu glwb chwaraeon – cysylltwch gyda ni am becyn
• Cwblhewch eich milltir, ar ben eich hun neu gyda theulu a ffrindiau, yna lawrlwythwch eich amser
• Welwch eich enw wedi’i ychwanegu i Ganlyniadau Cymru Gyfan
PAM MAE HYN YN BWYSIG?
Gall chwaraeon a gweithgareddau ymarfer corff chwarae rôl fawr wrth edrych am strategaethau i ostwng y risg o glefyd cardiofasgwlaidd, canserau penodol, diabetes math 2 a gordewdra. Gall ymarfer corff gwella ein lles ac iechyd meddwl ac yn darparu ffordd o fyw bywyd hapus ac iach. Mae unigolion sydd ddim yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarfer corff yn treulio 38% fwy o ddiwrnodau yn yr ysbyty, yn ymweld â’r GP 5.5% yn fwy, yn cymryd mantais o wasanaethau arbenigol 13% yn fwy ac ymweld â nyrs 12% yn fwy nag unigolion sydd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarfer corff (Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ffynhonnell Cymru).
Canllawiau Gweithgarwch Corfforol
CRYNODEB
Gallwch gymryd rhan o unrhyw leoliad awyr agored, neu ar beiriant rhedeg o unrhyw leoliad ar draws y byd. Yr oll sydd angen i chi ei wneud yw casglu tystiolaeth sy’n dangos eich bod wedi cwblhau pellter y ras fel llun o gyfarpar campfa neu sgrin-lun o draciwr ffitrwydd neu weithgarwch GPS.
Bydd y ras yn cael ei chynnal rhwng 1 a 3 Hydref 2021. Gallwch gymryd rhan unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hwn, ond bydd rhaid i chi gyflwyno eich canlyniad erbyn hanner nos, 4 Hydref.