Y MARATHON MWYAF HYGYRCH ERIOED YNG NGHASNEWYDD!
CRYNODEB
Cyfres newydd gyffrous o ddigwyddiadau i fenywod yw’r HER VIRTUAL. Mae wedi’i chynllunio fel galwad i’r rheini sydd eisiau dathlu eu cariad at redeg – p’un a ydynt yn dechrau rhedeg, yn dychwelyd ar ôl rhywfaint o amser i ffwrdd neu’n rhedeg yn rheolaidd.
Bydd y gyfres yn dechrau gyda’r HER VIRTUAL 5K yn ystod gwanwyn 2021. Mae hyn wedi’i ysbrydoli gan waith ymchwil Prifysgol Caerdydd a oedd yn edrych ar resymau menywod dros redeg a’r hyn sy’n eu rhwystro rhag cymryd rhan. Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan Runderwear.
Bydd y rheini sy’n cymryd rhan yn cael mynediad at gynnwys a chyngor am rai o’r materion y tynnir sylw atynt yn yr ymchwil, gan roi sylw i bynciau fel pa mor hawdd yw rhedeg ar strydoedd, teimlo’n ddiogel, ymrwymiadau teuluol a gwaith, anafiadau, salwch, a gweithio gyda’ch corff.
Byddan nhw’n cael cyfle hefyd i ymuno â chymuned gaeedig ar y cyfryngau cymdeithasol, lle gallan nhw ymgysylltu â menywod eraill sy’n cymryd rhan, cael cefnogaeth, ysbrydoli ei gilydd, a dathlu llwyddiant.
Bydd y ras yn cael ei chefnogi gan y cwmni brand dillad isaf ar gyfer perfformio, Runderwear, sy’n frwd dros y gymuned o fenywod sy’n rhedeg. Yn ogystal â chynnig gostyngiad o 15% i bawb sy’n cymryd rhan ar unrhyw bryniant a wneir drwy eu gwefan (yn eu casgliad o fras rhedeg, dillad isaf, haenau isaf a hosanau i fenywod), byddan nhw’n cynnig darparu 200 o lefydd am ddim i fenywod gymryd rhan yn y digwyddiad.
Bydd Runderwear yn cynnig 100 o lefydd gwag drwy gystadleuaeth ar y cyfryngau cymdeithasol a 100 drwy nifer o grwpiau rhedeg i fenywod ledled Cymru. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei lansio drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol R4W ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod (dydd Llun 8 Mawrth).
FFI YMGEISIO £10 – BETH MAE HYN YN EI GYNNWYS
• Cynllun hyfforddi 5K, i helpu i baratoi ar gyfer y ras rithiol
• Mynediad i’r llwyfan canlyniadau ar-lein i gofnodi amseroedd gorffen
• 20% o’ch ffi ymgeisio yn cael ei roi i elusenau sy’n canolbwyntio ar fenywod, gan gynnwys 10% i Women in Sport. Gall y rhai sy’n cymryd rhan enwebu’r ail achos.
• Cynnwys a chyngor am rai o’r materion y tynnir sylw atynt yn yr ymchwil fel cymhellion neu rwystrau i fenywod rhag rhedeg, gan roi sylw i bynciau fel pa mor hawdd yw rhedeg ar strydoedd, teimlo’n ddiogel, ymrwymiadau teuluol a gwaith, anafiadau, salwch, a gweithio gyda’ch corff.
• Cael bod yn aelod o gymuned gaeedig ar y cyfryngau cymdeithasol, i ymgysylltu â menywod eraill sy’n cymryd rhan, cael cefnogaeth, ysbrydoli ei gilydd, a dathlu llwyddiant (cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad).
• Gostyngiad o 15% oddi ar unrhyw bryniant o wefan Runderwear (heb gynnwys eitemau sydd ar sêl). Dewiswch o blith bras, dillad isaf, haenau isaf, a hosanau i fenywod.
• Gwobrau i’r sawl sy’n gorffen, wedi’u dewis ar hap, gan gynnwys Aelodaeth R4W a mynediad i ras R4W 2022 (enillwyr wedi’u dewis ar hap ac nid ar sail amser gorffen na chyflymder).
SUT MAE’N GWEITHIO
20% o’ch ffi ymgeisio yn cael ei roi i elusenau sy’n canolbwyntio ar fenywod, gan gynnwys 10% i Women in Sport. Gall y rhai sy’n cymryd rhan enwebu’r ail achos.
Gallwch gymryd rhan o unrhyw leoliad awyr agored, neu ar beiriant rhedeg o unrhyw leoliad ar draws y byd. Yr oll sydd angen i chi ei wneud yw casglu tystiolaeth sy’n dangos eich bod wedi cwblhau pellter y ras fel llun o gyfarpar campfa neu sgrin-lun o draciwr ffitrwydd neu weithgarwch GPS.
Bydd y ras yn cael ei chynnal rhwng 28 Mawrth a 28 Ebrill 2021. Gallwch gymryd rhan unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hwn, ond mae’n rhaid i chi gyflwyno eich canlyniad erbyn hanner nos, 28 Ebrill.
Bydd ACTIVE, sy’n rheoli ein llwyfan cofrestru ar-lein, yn codi ffi fach nad oes modd ei thalu’n ôl, ar ben eich ffi i gymryd rhan yn y ras.
Women in Sport
Mae Women in Sport yn elusen Brydeinig sy’n gweithio i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei eithrio o fuddion gydol oes sy’n gysylltiedig â chwaraeon ac ymarfer corff. Ar hyn o bryd yn y DU nid yw bron i 60% o ferched ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarfer corff. Hefyd, mae dros 700,000 mwy o ddynion nag o ferched yn cymryd rhan mewn gweithgareddau i gadw’n heini. Nawr yw’r amser i newid hyn, er mwyn sicrhau ein gweledigaeth o gymdeithas hafal gyda dynion a merched yn derbyn yr un cyfleoedd. Trwy fynd i’r afael a chydraddoldeb rhywiol yn chwaraeon, gallwn roi’r cyfle a’r ysbrydoliaeth i bob merch boed yn ifanc neu’n oedolyn i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae yna newidiadau ar y gweill. Beth amdani?