10K Porthcawl Iau

Crynodeb

Mae Ogi Porthcawl 10K yn fwy na dim ond 10 cilometr! 

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’r Genhedlaeth Nesaf R4W; sef cyfres o ddigwyddiadau newydd i’r teulu sy’n ceisio ysbrydoli cenhedlaeth o oedolion iach a heini yn y dyfodol.

Mae’r digwyddiad yn cynnig Ras Hwyl i’r teulu – does dim pwysau i redeg yn gyflym; Ras Plant Bach ar gyfer y rhai sy’n cymryd eu camau cyntaf i weithgareddau corfforol a ras Pencampwyr y Dyfodol ar gyfer athletwyr ifanc dawnus a rhedwyr clwb iau sy’n chwilio am ras hygyrch a chystadleuol.