Ras hwyl yn y gwanwyn ym Mae hanesyddol Caerdydd
Crynodeb
Mae Ras Bae Caerdydd Brecon Carreg yn ddigwyddiad cyflym, gwastad a hwyliog i bobl o bob oed a gallu, ac mae’n rhan o Gyfres 10K R4W.
Mae’r ras boblogaidd hon yn y gwanwyn, sy’n denu rhai o brif athletwyr y DU, yn cael ei rhedeg yng nghanol Bae hanesyddol Caerdydd.
Mae’r cwrs 10K yn pasio holl dirnodau mwyaf eiconig Caerdydd, gan ddechrau a gorffen ym Mhlas Roald Dahl ar ôl pasio Canolfan Mileniwm Cymru, Mermaid Quay, Adeilad y Pierhead, y Senedd, Porth Teigr a Morglawdd Bae Caerdydd.
Dyma her berffaith i athletwyr elit a chlwb, ac i’r rhai sy’n dymuno cadw’n heini, codi arian i elusen neu roi cynnig ar eu 10K gyntaf! Mae ras hwyl 2K yn rhoi cyfle i redwyr a theuluoedd o bob oed ymuno yn yr hwyl.
Ras Bae Caerdydd 2021
Fideos Eraill
MEWN RHIFAU
Dychwelydd Ras Bae Caerdydd, a oedd arfer cael ei alw’n Ras 5 Milltir Bae Caerdydd, yn 2017 gyda chwrs 10km trawiadol newydd. Mewn dim mae’r ras wedi tyfu i fod yn un o hoff rasys 10K Cymru. Mae ei chynnal yn y gwanwyn yn rhoi cyfle yn gynnar yn y tymor i chi brofi eich ffitrwydd neu roi rhywbeth i chi edrych ymlaen ato dros fisoedd y gaeaf.
- 0
-
o redwyr ar draws y 10k a’r 2k
- 0
-
yn rhedeg am y tro cyntaf
- 0%
-
yn awyddus i redeg eto