Yn Cyflwyno Ffordd R4W
Ydych chi erioed wedi bod i ddigwyddiad R4W lle rydych chi’n meddwl bod mwy yn bosib i ddiogelu’r amgylchedd neu’r gymuned rydyn ni’n rhan ohono? Neu efallai fyddech chi’n hoffi gweld grwpiau amryw o bobl yn cymryd rhan?
Rydyn ni’n dysgu trwy’r amser ac yn trosglwyddo gwybodaeth a phrofiad i’r digwyddiadau. O’r amgylchedd i gyflogaeth ac anabledd i amrywiaeth, rydyn ni’n barhaol asesu’r ffordd i weithredu a thrafod modd i wella’n hunain fel cwmni.
Crëwyd R4W yn 2012, rydyn ni wedi cael degawd anhygoel o ddarparu digwyddiadau yng Nghymru a chynhyrchu buddsoddion i chwaraeon a phrojectau cymunedol eraill- ond nawr mae’n sylw yn troi at ein hamcanion dros y 10 mlynedd nesaf!
Rydyn ni yn gweithio’n galed i wella amcanion cymdeithasol, o adeiladu tîm cyfartal ac amrywiol, i ddarparu digwyddiadau sydd yn agored i bawb.
Yn ogystal â’r gwelliannau cymdeithasol, rydyn ni’n parhau gyda’n hamcanion amgylcheddol. Mae’r amcanion byr a hir dymor yn hanfodol i roi cyfeiriad i ddarparu digwyddiadau cyfranogiad enfawr gydag effaith lleia posib ar yr amgylchedd rydyn ni’n gweithredu ynddi.
Yna, mae gennym ni ein hamcanion llywodraethu. Mae’r byd yn cylchdroi o amgylch arweinyddiaeth, ein bwrdd o gyfarwyddwyr, strategaeth a tystioli-dyfodol ein penderfyniadau.
Mae ein dulliau ACL (Amgylcheddol, Cymdeithasol, Llywodraethu) i ddigwyddiadau wedi eu canolbwyntio o amgylch Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n anelu i wella lles cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol, ac economeg yng Nghymru.
Rydyn ni hefyd yn gosod ein hamcanion gyda 17 amcan y byd am ddatblygiad cynaliadwy a, sefydlwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn 2015.
Mae’r ymdrech i addasu ein fford newydd R4W yn farathon ac nid yn ras gwibio, ac rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod y newidiadau sy’n cael eu gwneud y rhai cywir ar yr amser cywir.
Rydyn ni yng nghanol sefydlu cynllun gweithredu ESG, fydd yn dyfynnu amcanion byr a hir dymor. Yr amcan llun mawr a gweithredoedd yn cael eu cyhoeddi, fel bod ein rhedwyr, gwylwyr a gwirfoddolwyr yn gallu gweld bod ein cynllun yn llai niweidiol ar yr amgylchedd a’n bod yn fwy ymwybodol yn gymdeithasol.