Pecynnau her timau
Mae ein heriau tîm yn digwydd ym mhob un digwyddiad 10k, hanner marathon a marathon Rhedeg Dros Gymru. Rydyn ni yn agored i dimau corfforedig, cymunedol a rhyngwladol sy’n medru cystadlu i ennill gwobrau gwahanol a chael mantais sylweddol o fynediad discowntedig, a phrofiadau eraill atyniadol.
Mae’n gyfle perffaith i weithio ac adeiladu o fewn timau ymarferol, codi arian elusennol neu weithred CCC sy’n addas i grwpiau mawr neu fach.
- Corfforedig; dewch at eich gilydd fel aelodau o’r swyddfa er mwyn cystadlu i fod y cwmni cyflymaf
- rheolwyr HR; ymroi i hapusrwydd y gweithle er mwyn creu awyrgylch tîm iachach a hapusach
- Grwpiau’r Gymuned; cysylltu gydag eich ysgolion, grwpiau ffydd, cymdeithasol neu dîm chwaraeon
- Tramor; cofrestru di-ffwdan a chystadlu gyda rhedwyr rhyngwladol eraill.
Grwpiau o bump neu fwy, yn medru cystadlu i fod y tîm cyflymaf yn y ras. Mae pob aelod o’r tîm yn cwblhau pellter yr holl ras, gyda’r pum amser cyflymaf o bob tîm ymaelododd i gyfrif. Y tîm gyda’r cyfanswm amser cyflymaf sy’n ennill!
Beth sy’n gynwysedig
- Eich lle yn y ras a mynediad i’r her tîm
- Cyfle i hepgor taliad ymaelodi ar-lein sydd yn orfodol ar unigolion yn mynedu’r ras
- Tlws yn cael ei rhoi i’r gweithle cyflymaf (tlws corfforedig)
- Tlws yn cael ei rhoi i’r clwb/grŵp cyflymaf (tlws cymunedol)
- Tlws yn cael ei rhoi i’r tîm tramor cyflymaf (tlws rhyngwladol)
- Gwobr i’r tîm gorau sy’n codi arian elusennol (agored i bob tîm)
- Rhedwr mwyaf ysbrydoledig (wedi’i henwebu gan aelodau eraill y tîm)
- Crys-t a medal i bob rhedwr
- Mynediad i borthal tîm rheolaeth
Ymunwch mewn
Mae ein timau yn derbyn anfonebau am y gost o lefydd ymlaen llaw ac yn cael cod promo ar gyfer pob unigolyn i gofrestru am ddim ar ein gwefan ymaelodi ar-lein.
Am fwy o wybodaeth, llawr-lwythwch ein llyfryn pecyn her timau neu cysylltwch (e-bost hattie.jardine@run4wales.org) i sicrhau lle.
Yr her timau eithaf
Ewch i’r daflen Her Rheoli Dell Technologies i weld yr her tîm eithaf!
Mae’r ras benwythnos anturus yn digwydd dros nifer o ddiwrnodau ac yn cynnwys gweithgaredd datblygiad rheoli, siaradwr gwadd, rhwydweithio safonol a gweithgareddau ras antur fel canŵio, seiclo mynydd, rhedeg, dringo, darllen map, saethyddiaeth a phosau myddyliau.