ERTHYGLAU HYFFORDDI

Hyfforddi yn yr oerfel

Wrth i chi baratoi ar gyfer y gwanwyn a’r tymor rasio, dyma rywfaint o awgrymiadau hollbwysig i’ch helpu drwy’r gaeaf a bod mor barod â phosib ar gyfer eich ras nesaf.

1) Dod o hyd i’r cymhelliant 

Does dim amheuaeth mai’r agwedd anoddaf ar redeg yn ystod y gaeaf yw gadael y tŷ. Gyda ras pellter hir ar y gorwel mae’n bwysig eich bod yn gallu dod o hyd i gymhelliant ac ymroi i redeg yn ystod y gaeaf. Mae’n haws o lawer goresgyn yr amodau oer gyda meddylfryd cadarnhaol.

2) Anghofio am eich amser gorau

Y brif dasg yn ystod y gaeaf yw wynebu’r oerfel, nid rhedeg mewn amser da ac ymdrechu i gael amser gorau. Oni bai mai eich amser yw’r unig beth sy’n eich cymell, sy’n iawn hefyd wrth gwrs, byddem yn argymell eich bod yn rhoi eich offer o’r neilltu am y tro. Rydych chi’n annhebygol o redeg ar eich gorau mewn amodau oer a gwyntog, felly nes eich bod yn teimlo eich bod arfer, anghofiwch am yr amser.

3) Gwisgo’n gywir 

Mae’n hollbwysig eich bod yn gyfforddus wrth redeg yn y gaeaf. Gwisgwch sanau trwchus (heb fod yn fyglyd), 2 neu 3 top, fflîs os ydych chi’n dueddol o deimlo’r oerfel, a rhywbeth i gynhesu’ch coesau. Pan fyddwch yn cyrraedd adref, dadwisgwch cyn gynted â phosib i osgoi rhynnu ar ôl rhedeg. Mae’n hollbwysig cadw’n heini ac osgoi salwch.

4)u 

Y ffordd orau o guro’r oerfel yw cynhesu, ie ddim? Cyn hyd yn oed meddwl am gamu allan, gwnewch rywbeth i gael y gwaed yn rhedeg. Rhedwch i fyny ac i lawr y grisiau, neu wneud ‘press-ups’. Ar ôl i chi gynhesu, rydych chi’n barod i wynebu’r oerfel a byddwch chi’n teimlo’n llawer gwell ar ôl gwneud.

Mae hyfforddi ar gyfer digwyddiad yn gallu rhoi cymhelliant go iawn i chi ar y diwrnodau gaeafol, oer hynny pan fyddai’n well gennych chi beidio â mentro. Tarwch olwg ar yr hyn sydd gan R4W i’w gynnig a dod o hyd i’ch her!