ERTHYGLAU HYFFORDDI

Pam mae’r Nadolig yn gyfnod gwych i ffanatics ffitrwydd

Pan ydyn ni’n meddwl am y Nadolig, nid ffitrwydd, rhedeg pellteroedd hir a mynd i’r gampfa yw’r pethau cyntaf sy’n dod i’r meddwl – ond rydyn ni’n clywed mwy a mwy am bobl sydd wrth eu bodd yn mynd allan ar y ffyrdd a’r llwybrau adeg y Nadolig!

Felly pam nad yw gwyliau’r Nadolig yn seibiant llwyr? Mae’r ateb yn un syml. Gall y cyfnod cyn y Nadolig fod yn llawn straen o ganlyniad i’r siopa, y prysurdeb, y dadleuon dros gemau bwrdd a, debyg iawn, pen mawr yn y bore! Rhedeg yw’r iachâd gorau bob amser bron. Fel y maen nhw’n ei ddweud, wrth ei flas mae profi pwdin – po fwyaf o amser sy’n cael ei dreulio yn gwneud ymarfer corff, y gorau byddwch yn teimlo’n feddyliol.

Dyma pam.

Yn gyntaf, mae rhedeg, yn wahanol i unrhyw beth arall, yn rhoi cyfnod hir i chi ar gyfer meddwlgarwch. Yn hytrach na phoeni am ba anrhegion rydych chi’n ei eu prynu ac i bwy, mae gennych chi amser i feddwl am y presennol. Mae gwneud hynny’n caniatáu i ni ganolbwyntio ar ni ein hunain a does dim llawer o amser i’r meddwl ddechrau meddwl am straen y Nadolig eto.

Cofiwch fod gwyliau’r Nadolig yn dal yn amser i ymlacio – ond dydy llawer o bobl dal ddim yn gwybod beth mae ymlacio yn ei olygu iddyn nhw. Rydyn ni’n gweld bod nifer o redwyr brwd yn cael trafferth eistedd o gwmpas yn gwneud dim byd, ac mae hynny oherwydd mae’r hyn sy’n eu hymlacio yw’r teimlad o fod ar eu traed yn gwneud rhywbeth. Rhowch gynnig arni a byddwch yn gwybod naill ffordd neu’r llall!

Yn gyffredinol mae mis Rhagfyr yn amser i fyfyrio ar y flwyddyn – ac mae digon o reswm dros ddathlu adeg y Nadolig. Efallai mai dyma’r tro cyntaf i’ch teulu ddod ynghyd am amser maith, neu eich bod wedi cael blwyddyn lwyddiannus yn y gwaith. Mae’r Nadolig yn dueddol o olygu llawer o nosweithiau hwyr. A pham y bydd rhedeg yn helpu? Cwsg. Mae wedi’i brofi bod hyd yn oed mynd i redeg am yr amser byrraf posib, dim ots beth yw’r cyflymder, yn gwella ansawdd eich cwsg. Mae hynny’n hynod o werthfawr adeg y Nadolig ac rydych chi’n sicr o deimlo’n well yn sgil hynny.

I’r rhai sy’n gorfod meddwl am goginio cinio Nadolig, bydd rhedeg yn helpu i dawelu eich meddwl. Mae wedi’i brofi’n wyddonol bod mynd allan i’r amgylchedd naturiol yn helpu’n sylweddol i leddfu eich pryderon ac i’ch rhoi ar y trywydd iawn. Rydyn ni wedi sôn am feddwlgarwch ac mae hyn yn debyg iawn.

I gloi, mae’r Nadolig yn dueddol o ymyrryd â’n trefn arferol – rydyn ni’n treulio mwy o amser gyda’r teulu, yn cynllunio achlysuron mawr, mae partïon Nadolig, bwyta ac yfed di-baid, ac mae’r drefn 9-5 wedi hen fynd. Ond beth am redeg? Rydych chi wedi hyfforddi drwy’r flwyddyn, pam stopio nawr? Mae syniad bod pob cynllun arferol yn diflannu adeg y Nadolig – ond rydyn ni’n anghytuno. Cadwch eich arferion rhedeg yn gyson, hyd yn oed os mai dyna’r unig beth. Does dim rhaid iddo fod yn ddwys, byddwch yn teimlo’n wych yn feddyliol beth bynnag.

Efallai eich bod chi wedi sylwi – nid dim ond i’r Nadolig mae hyn yn wir. Mae’r rhain yn hanfodion cyfarwydd. Mae rhedeg yn helpu eich iechyd meddwl a bydd llawer ohonoch chi’n gwybod hynny’n barod. Y Nadolig hwn, ewch i redeg a mwynhau’r amser sydd gennych chi – byddwch yn teimlo’n wych!