ERTHYGLAU HYFFORDDI

Pam mai 10K yw’r pellter rhedeg perffaith o bosib

Mae dadl ffyrnig ynghylch y pellter rhedeg perffaith. O ran pellter, does dim amheuaeth bod marathon yn aruthrol. Mae’n herio rhedwr yn gorfforol ac yn feddyliol. Yma, rydyn ni’n pledio achos 10K, gan ddadlau pam mai dyma’r ras berffaith i rai.

1) Cydbwysedd.

Yn gyntaf, mae’n ticio’r bocsys i rai o ran cydbwysedd. Mae gan redwyr llai profiadol gyfle realistig i redeg rasys 10K â’r hyfforddiant priodol. Byddan nhw’n dal i’w theimlo yn eu coesau ar ôl y ras, ond dyna pam ein bod yn ei hoffi, ie ddim?

2) Llwybrau newydd, anturiaethau newydd. 

Does dim rhaid i chi fynd i ddinas fawr i ddod o hyd i ras 10K, fel y byddech ar gyfer hanner marathon neu farathon. Mae’n golygu eich bod yn debygol o gael profiad o lwybrau cwbl unigryw mewn pentrefi bach fel y Barri neu Borthcawl.

3) Cymdeithasol.

Gan ei fod yn fyrrach na marathon, er enghraifft, mae 10K yn gyfle gwych i redeg gyda ffrindiau. Mewn marathon, gallai fod oriau rhwng y rhedwr cyflymaf ac arafaf yn eich grŵp o frindiau, ond gyda 10K fyddwch chi ddim yn aros am ry hir ar ôl gorffen a bydd gennych chi fwy o amser (ac egni) i ddathlu!

4) Diffodd y meddwl.

Pan fyddwn yn rhedeg, y nod yw cyrraedd pwynt lle gallwn ni ddiffodd y meddwl a mynd i rythm sy’n teimlo’n ymlaciol. Mae 10K yn rhoi digon o amser i chi fynd i rythm, ei fwynhau, a’i orffen yn teimlo wedi’ch adfywio. Neu ydy hynny’n rhy gryf efallai? Wedi dadebru?.

5) Bod yn elusennol. 

Does dim rhaid i chi redeg milltiroedd gwirion (afrealistig) i godi arian i elusen sy’n agos at eich calon, ac mae llawer yn dewis codi arian wrth hyfforddi ar gyfer 10K. Rydyn ni’n gweithio gyda nifer o elusennau sy’n gwneud pethau gwych yng Nghymru a ledled y DU ar draws ein Cyfres 10K, felly beth am gymryd rhan a mynd yr ail filltir?

6) Camau bach.

Mae 10K yn gam mawr i redwyr yn aml. Efallai eu bod yn rhedeg y parkrun yn rheolaidd neu’n loncian bob hyn a hyn, felly cymryd rhan mewn 10K gystadleuol yw’r cam angenrheidiol er mwyn cynyddu eu ffitrwydd a gweithio tuag at y nod nesaf.

7) Dod o hyd i’r amser. 

Dim ots beth yw eich swydd neu eich ymrwymiadau teuluol, mae bob tro amser yn ystod yr wythnos i hyfforddi ar gyfer 10K. Does dim rhaid i chi roi’r gorau i’ch holl ddiddordebau a rhoi awr neu ddwy bob dydd, dim ond parhau i hyfforddi’n rheolaidd a gweithio tuag at y pellter yn ofalus.

8) Llond gwlad o fuddion.

Os byddwch yn cystadlu mewn ras yng Nghyfres 10K Healthspan Wales, nid yn unig y byddwch yn cael crys t unigryw i orffenwyr a medal i ddangos eich llwyddiant, byddwch yn gallu profi’r awyrgylch diguro. Does dim yn cymharu â’r teimlad o’r dorf yn rhuo ger y llinell derfyn!

9) Cynnal eich ffitrwydd.

Nid yn unig mae 10K yn gyraeddadwy i bob sy’n rhedeg yn achlysurol, ond mae’r ffaith eu bod yn cael eu cynnal yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn yn rhoi rheswm da i chi gadw’n heini drwy gydol y flwyddyn (yn hytrach nag aros am farathon yn y gwanwyn neu hanner marathon yn yr hydref). Mae ein rasys 10K yn cael eu rhedeg o fis Mawrth i fis Awst.

10) Cyfleoedd i gael amser gorau. 

Efallai eich bod yma am y wefr, neu eich bod yn ofnadwy o gystadleuol – rydyn ni’n hoff o’r ddau bersonoliaeth ond mae gennym ni rywbeth i bawb! Os ydych chi ar drywydd amser gorau, does dim dewis gwell na 10K Casnewydd Cymru sy’n wastad iawn, neu Ras Bae Caerdydd yn gynnar yn y tymor (a fydd yn eich cymell i barhau i hyfforddi dros fisoedd y gaeaf). Os ydych chi’n dymuno rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol, mae ein rasys ym Mhorthcawl ac Ynys y Barri wir yn unigryw, a’u cyrsiau arfordirol yn drawiadol.

Mae Cyfres 10K Healthspan Wales yn gyfres gyffrous o rasys ffordd 10K mewn pedwar lleoliad unigryw yn ne Cymru, wedi’u cyflenwi gan R4W.