Velothon Cymru
Ras beicio ffordd gaeedig broffesiynol o safon fyd-eang, sydd wedi’i chymeradwyo gan yr UCI, yn dangos Cymru fel cartref i ddigwyddiadau beicio byd-eang mawr gyda llwybrau godidog dros 140KM, 125KM a 60KM.
R4W oedd yn cyflenwi’r digwyddiad cymhleth mewn cysylltiad ag IRONMAN. Denodd 40,000 o feicwyr dros ei oes ac roedd yn cynnwys pum ardal awdurdod lleol.
Roeddem wedi cyd-drefnu ymgyrch ymgysylltu â’r gymuned ac ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd gynhwysfawr i dros 200,000 o breswylwyr a busnesau – gan hybu cefnogaeth gref gan wylwyr a theimladau cadarnhaol mewn cymunedau lleol er gwaethaf y ffaith fod rhaid cau llawer o ffyrdd.
Roedd R4W wedi gweithio ar draws nifer o asiantaethau i gyflenwi digwyddiad diogel o safon uchel i feicwyr, gwylwyr a chymunedau lleol, gan greu cyfleoedd i frandiau corfforaethol, noddwyr ac elusennau gymryd rhan hefyd.