ERTHYGLAU HYFFORDDI

Torwyr recordiau Hanner Marathon Caerdydd yn ysbrydoli

Yn 2017, roedd Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd yn cynnwys athletwyr elit cryf a oedd yn gobeithio gosod amseroedd cyflymaf erioed y digwyddiad – ond nid dim ond yr athletwyr proffesiynol a oedd yn gobeithio torri recordiau.

Roedd llawer o redwyr – Torwyr Recordiau Hanner Marathon Caerdydd – wedi mynd ati nid yn unig i ennill eu lle yn hanes y ras, ond yn y Guinness Book of Records. Roedd ein Hymgyrch Torri Record yn annog rhedwyr a oedd yn meddwl bod gobaith ganddynt o wneud hanes i ymuno yn yr hwyl! Fe wnaethon ni gwrdd â rhai ohonynt cyn diwrnod y ras:

Roedd yr ymgyrch yn llwyddiant ysgubol!

Cafodd record y cwrs ei dorri yn y tair ras elit – rhedodd Edith Cheilmo o Kenya record UK All-Comers o 65:50 i ennill ras y merched, torrodd John Lotiang o Kenya record y ras o 7 eiliad wrth ennill ras y dynion mewn 60:43, ac ennillodd Melissa Nicholls o Brydain y ras cadair olwyn mewn 59:40.

Ond enillodd nifer o berfformiadau anhygoel eraill eu lle yn y Guinness Book of Records hefyd:

Fe wnaeth Sir Runalot, sef Tudor Jones, redeg y ras mewn arfwisg lawn a oedd yn pwyso 30kg, gan orffen mewn 3.26.10 a sicrhau ei le yn y llyfr enwog.

A beth am Robert Atkin, diffoddwr tân a redodd y pellter cyfan mewn gwisg 20 pwys, a gurodd y record blaenorol o fwy na munud, gan orffen mewn 1.29.55!

Fe wnaeth Alec Care, torrwr record arall yn 2017 ac un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, redeg 1.31.58 yn gwisgo ei wisg academaidd draddodiadol.

Ac fe wnaeth Robert Dibble ennill ei le yn hanes y ras fel y dyn cyflymaf i gwblhau hanner marathon wedi gwisgo fel mynach – beth arall?! Rhedodd y ras mewn amser ardderchog o 1.28.09.

Dydy torri recordiau byd ddim yn beth newydd i’r ras hon. Flwyddyn yn gynharach, yn 2016, torrodd Mike Kallenberg y record am y dyn cyflymaf i redeg hanner marathon wedi gwisgo fel arch-arwr, sef Robin yn ei achos ef:

Mae ein portffolio o ddigwyddiadau yn rhoi cyfle i redwyr roi cynnig ar rywbeth rhyfeddol. Mae gwisg ffansi’n cael ei annog yn gryf, felly rhowch wybod i ni os ydych chi’n anelu at dorri record!